2011 Rhif 1666 (Cy. 190)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i osod ffi resymol ar oedolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, os darperir neu os sicrheir y gwasanaethau hynny gan awdurdod lleol (“defnyddwyr gwasanaeth”). Nid yw’n ofynnol bod awdurdod lleol yn gosod ffi am wasanaethau o’r fath, ond os gosodir ffi, mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur (a hefyd o dan unrhyw Reoliadau a wneir o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003).

Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau o dan y Mesur, sef—

·         Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/962 (Cy.136)) (“y Rheoliadau Ffioedd”); a

·         Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/963 (Cy.137)) (“y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol”).

Gwnaed y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol o dan adran 12 o’r Mesur (sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth (a wneir yn y Mesur ac yn y Rheoliadau Ffioedd), sef bod oedolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn cael taliadau gan awdurdod lleol i  sicrhau darpariaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl iddynt eu hunain (yn unol â Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/831 (Cy.125)).

Nid yw’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn ceisio cael unrhyw ad-daliad neu gyfraniad tuag at y gost o sicrhau’r gwasanaeth y telir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan oedolyn  sy’n derbyn taliad uniongyrchol. Os yw’r awdurdod lleol yn ceisio unrhyw ad-daliad neu gyfraniad, mae’n ofynnol bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol (ac unrhyw Reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran  16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003).

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y Rheoliadau Ffioedd.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gan mai cywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y Rheoliadau presennol yn unig y maent, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2011 Rhif 1666 (Cy. 190)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011

Gwnaed                             6 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       8 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym                              2 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(2), 3(1), 4(3) a (4), 5(2), 7(2), 10(4)(f), 12 a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 2 Awst 2011.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“the Charges Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011([2]); ac

ystyr “y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol” (“the Social Care Direct Payments Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011([3]).

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio’r Rheoliadau Ffioedd

2.(1)(1) Diwygir y Rheoliadau  Ffioedd yn unol â pharagraffau canlynol  y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     ym mharagraffau (a) a (b) o’r diffiniad o  “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”), yn y testun Saesneg, yn lle “is it” rhodder “it is”;

(b)     yn y diffiniad o “mewn ysgrifen” (“in writing”), yn y testun Cymraeg, yn lle “eiriau a ffigurau” rhodder “eiriau neu ffigurau.

(3) Ym mharagraff (1)(a) o reoliad 4 (defnyddwyr gwasanaeth na chaniateir gosod ffioedd arnynt a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd mewn perthynas â hwy), yn lle “Creuzfeldt Jacob” rhodder “Creuztfeldt-Jakob”.

(4) Yn rheoliad 7 (gwahoddiad i ofyn am asesiad modd), yn y testun Cymraeg—

(a)     ym mharagraff (1)(b), yn lle “gan” rhodder “y mae’n rhaid iddo”;

(b)     ym mharagraff (1)(b)(iv), mewnosoder “am wasanaethau” rhwng “rhesymol” ac “y caniateir”;

(c)     ym mharagraff (1)(g), yn lle “ag ef” rhodder “â hwy”.

Diwygio’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol

3.(1)(1) Diwygir y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol yn unol â pharagraffau canlynol  y rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)     ym mharagraffau (a) a (b) o’r diffiniad o  “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”), yn y testun Saesneg, yn lle “is it” rhodder “it is”;

(b)     yn y diffiniad o “cyfleuster ymweliadau cartref” (“home visiting facility”), yn y testun Cymraeg, yn lle “chartref neu breswylfa” rhodder “phreswylfa”;

(c)     yn y diffiniad o “mewn ysgrifen” (“in writing”), yn y testun Cymraeg, yn lle “eiriau a ffigurau” rhodder “eiriau neu ffigurau;

(ch) yn y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth”  (“service user”), yn y testun Cymraeg, ar ôl “ddarperir” mewnsoder “neu a sicrheir”.

   

 

(3) Ym mharagraff (1)(a) o reoliad 4 (personau a gwasanaethau na chaniateir gwneud ad-daliad neu gyfraniad yn ofynnol ganddynt), yn lle “Creuzfeldt Jacob” rhodder “Creuztfeldt-Jakob”.

(4)  Yn rheoliad 7 (gwahoddiad i ofyn am asesiad modd), yn y testun Cymraeg—

(a)     ym mharagraff (4)(b), yn lle “gan” rhodder “y mae’n rhaid iddo”;

(b)     ym mharagraff (4)(d), yn lle “is-baragraff (dd)” rhodder “is-baragraff (ch)”;

(c)     ym mharagraff (4)(ff),  yn lle “ag ef” rhodder “â hwy”.

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

6 Gorffennaf 2011

 

 

 

 



([1])           2010 mccc 2 (“y Mesur”). Gweler adran 17 o’r Mesur am y diffiniad o “rheoliadau”.

([2])           O.S. 2011/962 (Cy.136).

([3])           O.S. 2011/963 (Cy.137).